Elusennau Cymreig Yn Uno Am Y Tro Cyntaf I Lansio Apâl Gyntaf Dec Cymru Ar Gyfer Darfur A Chad
24 Mai 2007
Mae â prif elusennau cymorth rhyngwladol Cymru yn uno heddiw (24 Mai 2007) am y tro cyntaf erioed er mwyn lansio apâl argyfwng i arbed bywydau yn Darfur, Chad a Gweriniaeth Canolbarth Affrica.
Bydd yr athletwraig Baralympaidd, y Fonesig Tanni Grey-Thompson, yn cyflwyno apâl bersonol ar BBC 1 yng Nghymru heno, yn galw ar bobl Cymru i ymateb yn hael i’r hyn sydd bellach yn un o'r argyfyngau dyngarol mwyaf yn y byd. Bydd y darlledwr Garry Owen yn cyflwyno'r apâl Cymraeg cyntaf erioed ar S4C.
Mae 4.5 miliwn o bobl wedi'u heffeithio gan y gwrthdaro parhaus, ac mae'r glawogydd sydd ar ddod yn golygu bod yna berygl y bydd afiechydon marwol, fel dolur rhydd a malaria, yn lledu, yn enwedig ymysg plant, mamau beichiog a phobl hŷn.
Mae lefelau diffyg maeth eisoes ar gynnydd mewn rhai ardaloedd, ac mae asiantaethau cymorth yn apelio am help er mwyn ymateb i'r argyfwng, sy'n gwaethygu'n gyflym. Mae angen i asiantaethau cymorth gael gafael ar fwy o gyflenwadau bwyd a meddyginiaethau hanfodol cyn y daw'r glaw mawr sydd ar ddod ar unrhyw adeg o fewn y 4 wythnos nesaf.
Bydd y stormydd sy'n crynhoi hefyd yn gwneud y dasg o gludo cymorth lawer yn anoddach, gyda'r traciau ar gyfer y cerbydau yn diflannu ac afonydd gorlawn yn amhosib eu croesi bron – gan olygu bod angen i'r help gyrraedd cyn gynted â phosib.
Dywedodd Jeff Williams, Cadeirydd DEC Cymru:
"Rydym yn gweld un o'r achosion mwyaf dwys o ddioddef dynol ar hyn o bryd yn Darfur a Chad, a bydd y glawogydd sydd ar ddod yn gwaethygu'r sefyllfa hyd yn oed yn fwy. Llwyddodd yr arian a godwyd gan y cyhoedd yn 2004 i arbed miloedd o fywydau ac rydym angen arian pobl Cymru yn druenus er mwyn helpu unwaith eto.
'Rydym wedi bod yn cadw pobl yn fyw ond mae'r gwrthdaro eisoes yn ei gwneud hi'n anodd iawn eu cyrraedd, a bydd y glawogydd yn ei gwneud hi lawer yn anoddach i ni ymateb os na fyddwn yn gweithredu nawr."
Ychwanegodd: "Mae'r ffaith bod y prif asiantaethau wedi dod at ei gilydd er mwyn cynnal apâl yn dangos difrifoldeb y sefyllfa. Mae elusennau'n gweithio yn ddiflino yn y rhanbarth, a gyda'ch help chi, yn llythrennol fe allan nhw arbed miloedd yn rhagor o fywydau. Mae angen i ni weithredu ar frys – rhowch yn hael"
Dywedodd y Fonesig Tanni Grey-Thompson:
"Mae pobl Darfur a Chad mewn sefyllfa enbyd. Mae miliynau wedi gorfod ffoi o'u cartrefi ac mae dros 4.5 miliwn yn dibynnu ar gymorth dyngarol er mwyn goroesi. Mae angen help ar raddfa eang ond dim ond ychydig funudau mae'n ei gymryd i godi'r ffôn a gwneud gwahaniaeth go iawn i fywyd rhywun."

"Rydw i wir yn credu y bydd pobl Cymru mor hael heddiw ag y maen nhw wedi bod yn y gorffennol, ac yn estyn i'w pocedi ar gyfer yr apâl yma. Bydd pob ceiniog yn gwneud gwahaniaeth."
Gyda'r trais yn y rhanbarth ar gynnydd, mae nifer o bentrefi wedi'u llosgi'n ulw ac mae dau o bob tri o bobl Darfur yn dibynnu ar gymorth. Bydd yr arian a godir gan yr apâl hon yn helpu pobl sydd wedi'u heffeithio gan y gwrthdaro, trwy roi lloches, dŵr glân ac offer glanweithdra, cyflenwaday bwyd brys, ac eitemau hanfodol fel bwcedi dŵr, blancedi a sebon, a thrwy alluogi timau meddygol i roi gofal argyfwng.
Ffeithiau allweddol
- Mae dros ddwy filiwn o bobl, bron i un o bob tri o boblogaeth Darfur, wedi'u gorfodi i ffoi i wersylloedd er mwyn arbed eu bywydau. Cafodd tua 107,000 o bobl gyffredin eu dadleoli o'r newydd gan yr ymladd rhwng Ionawr 1af ac Ebrill 1af eleni.
- Yn Darfur mae pedair miliwn o bobl – dau o bob tri o'r boblogaeth – yn dibynnu ar gymorth dyngarol er mwyn goroesi. Mae 147,000 o bobl wedi'u dadleoli o fewn Chad ac mae tua 232,000 o ffoaduriaid wedi ffoi o Darfur i Chad ers iÂ’r argyfwng gychwyn yn 2003.
- Mae cyrraedd pobl yn gallu bod yn anodd dros ben yn ystod tymor y glawogydd oherwydd llifogydd sydyn ac wrth i welyau afonydd chwyddo â dŵr.
- Mae'n hynod bwysig i sicrhau bod bwyd a chyflenwadau fel sment yn eu lle, gan ei fod bron yn amhosib i'w cludo o le i le unwaith y daw'r glawogydd.
- Yn Chad mae'r lefel trwythiad yn codi o fewn ½ metr i'r wyneb, ac mae'n rhaid ystyried hyn wrth gynllunio tai bach, a'u gwneud yn fwy bas, ac felly mae angen eu trwsio yn gyson.
